Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

 

Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd

 

 

 

Dyddiad:

Dydd Mercher, 4 Mehefin 2014

 

 

 

Amser:

09.16 - 11.49

 

 

 

Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://www.senedd.tv/archiveplayer.jsf?v=cy_200000_04_06_2014&t=0&l=cy

 

 

Cofnodion Cryno:

 

 

 

Aelodau’r Cynulliad:

 

David Rees AC (Cadeirydd)

Leighton Andrews AC

Rebecca Evans AC

Janet Finch-Saunders AC

Elin Jones AC

Darren Millar AC

Lynne Neagle AC

William Powell AC

Gwyn R Price AC

Lindsay Whittle AC

 

 

 

 

 

Tystion:

 

Mark Drakeford AC, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Dr Sandra Sandham, Llywodraeth Cymru

David Thomas, Llywodraeth Cymru

 

 

 

 

 

Staff y Pwyllgor:

 

Llinos Madeley (Clerc)

Sarah Sargent (Dirprwy Glerc)

Philippa Watkins (Ymchwilydd)

 

 

 

 

<AI1>

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.

 

</AI1>

<AI2>

1    Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

 

1.1 Croesawodd y Cadeirydd Aelodau’r Pwyllgor, y Gweinidog a’i swyddogion a’r cyhoedd i’r cyfarfod.

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Kirsty Williams. 

 

</AI2>

<AI3>

2    Ymchwiliad i wasanaethau orthodontig yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 3

 

2.1 Bu’r Gweinidog yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

2.2 Cytunodd y Gweinidog i ofyn i’r Athro Stephen Richmond ystyried yr angen am isafswm oedran ar gyfer atgyfeirio at wasanaethau orthodontig, ar wahân i’r 2% o blant a ddyfynnwyd gan y Prif Swyddog Deintyddol fel rhai sydd wedi’u nodi i fod ag angen am atgyfeirio cynnar. 

 

</AI3>

<AI4>

3    Papurau i’w nodi

 

3.1 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfodydd blaenorol. 

 

</AI4>

<AI5>

4    Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitem 5 ac o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) ar gyfer eitem 6

 

4.1 Derbyniwyd y cynnig. 

 

</AI5>

<AI6>

5    Ymchwiliad i’r mynediad at dechnolegau meddygol - ystyried y materion allweddol

 

5.1. Bu’r Pwyllgor yn trafod y materion allweddol sy’n codi o’r ymchwiliad.

5.2 Nododd y Pwyllgor ei farn bod angen ymchwilio ymhellach i fynediad at dechnolegau meddygol o fewn gofal sylfaenol a gofal cymdeithasol cyn cwblhau’r ymchwiliad hwn. Cytunodd y Pwyllgor i wahodd cynrychiolwyr o Gymdeithas Feddygol Prydain, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol, Byrddau Iechyd Lleol ac Awdurdodau Lleol, ac unrhyw sefydliadau perthnasol eraill, i ystyried y materion hyn ymhellach. 

 

</AI6>

<AI7>

6    Ystyried blaenraglen waith y Pwyllgor ar gyfer tymor yr hydref 2014

 

6.1 Cytunodd y Pwyllgor:

·         I gynnal ymchwiliad i gyffuriau penfeddwol cyfreithlon yn nhymor yr hydref. Bydd y Pwyllgor yn ystyried ei ddulliau mewn perthynas â’r ymchwiliad maes o law;

·         i wahodd y Comisiynydd Pobl Hŷn i roi tystiolaeth yn ystod tymor yr hydref, yn arbennig i drafod ei hadolygiad o ofal preswyl a’i hadroddiad blynyddol;

·         i wahodd y Prif Swyddog Meddygol i ddod i sesiwn graffu gyffredinol yn nhymor yr hydref fel rhan o raglen y Pwyllgor o graffu ar Brif Weithwyr Iechyd Proffesiynol Cymru;

·         i wahodd swyddogion y Llywodraeth i roi briff ffeithiol yn nhymor yr hydref ar y rheoliadau sy’n deillio o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, unwaith y bydd rheoliadau drafft yn cael eu cyhoeddi;

·         i godi, ymhlith pethau eraill, y materion a ganlyn gyda’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod y sesiwn graffu gyffredinol a drefnwyd ar gyfer 16 Gorffennaf:

o   adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar reoli cyflyrau cronig;

o   recriwtio, cadw a hyfforddi meddygon teulu;

o   adroddiadau diweddar ar amseroedd aros ar gyfer llawdriniaeth ar y galon;

·         ystyried materion ynghylch proses gwyno GIG Cymru, i’w lywio’n benodol gan yr adroddiad ar yr Adolygiad o Ymdrin â Phryderon a Chwynion yn GIG Cymru, o dan arweiniad Keith Evans, unwaith y bydd yr adroddiad ar gael.

 

 

</AI7>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>